Disgrifiad o swyddogaeth gwirfoddolwr
Curaduro gweddillion dynol y canoloesoedd cynnar o
Landoche
Cefndir
Mae gan Adran Archeoleg a Nwmismateg Amgueddfa Caerdydd gasgliad mawr sy’n cynnwys nifer o
weddillion dynol o safle hen fynwant yn Llandoche, Bro Morgannwg, sy’n perthyn i’r cyfnod
canoloesol cynnar. Cafodd y gweddillion eu datgladdu gan weithwyr Cotswold Archaeology ym
1994, cyn dechrau’r gwaith o godi stad dai newydd ger safle’r eglwys heddiw. Mae gwaith ymchwil a
dyddio’n profi fod y grŵp o gladdedigaethau hyn yn bwysig iawn er mwyn deall bywyd, deiet ac
iechyd pobl yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar.
Diben y swyddogaeth
Rydym yn chwilio am ddau wirfoddolwr i’n helpu i ddogfennu ac ail-becynnu’r sgerbydau hyn.
Byddwch yn paru’r esgyrn unigol â’u cofnodion, ac yna’n rhoi pob sgerbwd mewn bag a bocs
newydd, a pharatoi dogfennau ar bapur ar gyfer ein cofnodion casgliadau.
Lleoliad: Amgueddfa Caerdydd
Adran: Archeoleg a Nwmismateg
Prif ddyletswyddau
Cewch hyfforddiant i ddysgu’r sgiliau amgueddfa sylfaenol canlynol:
- Fframwaith cyfreithiol a chanllawiau ar gyfer curaduro gweddillion dynol mewn
amgueddfeydd
- Dulliau sylfaenol o adnabod elfennau ysgerbydol dynol
- Rhai sgiliau pennu oedran, rhyw a dangosyddion patholeg
- Pecynnu a thechnegau cofnodi penodol i weddillion dynol
- Dysgu am y safonau derbyn a chofnodi a ddefnyddir gan amgueddfeydd wrth ddogfennu
casgliadau.
Gofynion
Hanfodol
• Agwedd gyfrifol a pharch tuag at weddillion dynol
• Diddordeb cyffredinol mewn osteoarcheoleg ddynol a gofal am weddillion dynol archeolegol
mewn amgueddfeydd.
• Parodrwydd i weld a thrin gweddillion ysgerbydau dynol a rhai plant ifanc a babanod,
gan gynnwys rhai sydd wedi dirywio a/neu ddifrodi’n sylweddol.
• Diddordeb byw mewn cofnodion archeolegol
• Gallu gweithio’n fanwl gywir
• Parodrwydd i gyflawni rhai tasgau ailadroddus
Sgiliau/gwybodaeth neu ddiddordebau dymunol
• Bwriad i ddilyn astudiaeth bellach mewn Archeoleg / Osteoarcheoleg.
• Profiad blaenorol o drin/pecynnu gweddillion dynol.
Gellir addasu’r gofynion hyn yn rhesymol os oes rhaid er mwyn i chi ymgymryd â’r rôl.
Byddai’r swyddogaeth hon yn arbennig o addas i rai sydd ar fin cychwyn, neu sydd wrthi’n
gwneud astudiaeth archeolegol ffurfiol ar hyn o bryd.
Oriau ac ymrwymiad
Rydym yn chwilio am ddau wirfoddolwr a fydd ar gael i weithio rhwng hanner diwrnod ac un diwrnod
yr wythnos ar ddydd Mercerh rhwng 9.30am a 4.30pm
Gwaith am dri mis yw hwn.
Buddion
• Dysgu mwy am y gwaith o ofalu am gasgliad archeolegol y tu ôl i’r llenni, yn enwedig
gweddillion dynol
• Profiad ymarferol a thrylwyr, dwys, o weithio gyda chasgliad archeolegol go iawn
• Dysgu sgiliau sylfaenol mewn adnabod, cofnodi a phecynnu gweddillion ysgerbydol dynol
• Cipolwg ar waith adran archeoleg mewn amgueddfa genedlaethol fawr
• Gostyngiad o 20% yn siopau anrhegion Amgueddfa Cymru
• Gostyngiad o 25% yn siopau coffi’r Amgueddfa
• Tocyn parcio am ddim ar y safle
• Geirda ar gais
Yn atebol i – Jody Deacon, Cynorthwydd Curadurol (Cynhanes), Adran Archeoleg a Nwmismateg
Hyfforddiant a Chymorth - Darperir hyfforddiant cynefino cyffredinol, a hyfforddiant penodol
i’r project, yn ogystal â chymorth parhaus gan dîm curaduron archeolegol a’r cydgysylltydd
gwirfoddolwyr.
Treuliau
Gall gwirfoddolwyr amgueddfa hawlio treuliau rhesymol wedi’u cytuno’n barod fel a ganlyn:
• Gwir gostau trafnidiaeth gyhoeddus (gyda derbynebau)
• Os yn teithio mewn car – 45c y filltir a pharcio am ddim ar y safle
Sut i ymgeisio – Llenwch y ffurflen gais amgaeedig, a’i dychwelyd at:
Siân Layton, Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr, Adran Adnoddau Dynol, Amgueddfa Cymru, Parc
Cathays, Caerdydd CF10 3NP.
Neu e-bostiwch: volunteering@museumwales.ac.uk
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu eisiau cymorth i lenwi’r ffurflen gais, e-bostiwch
sian.layton@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch 029 2057 3190
DS Gan fod galw mawr am gyfleoedd gwirfoddoli, ni allwn sicrhau lleoliad i chi, ond rydym yn trin
pob cais yn deg ac yn gyfartal, ac yn cyflwyno pob un i’w ystyried. Byddwn yn anfon e-bost atoch i
ddweud a oedd eich cais yn llwyddiannus ai peidio (os nad oes gennych gyfeiriad e-bost, rhowch
gyfeiriad post i ni). Efallai y byddwn yn eich gwahodd i gyfarfod anffurfiol i sicrhau bod pawb yn
hapus cyn i chi gychwyn gwirfoddoli.
Mae Amgueddfa Cymru yn croesawu gwirfoddolwyr o bob rhan o’r gymuned.
Rydym angen geirdaon ar gyfer pob gwaith gwirfoddol.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
19 Ebrill 2013
Diolch yn fawr am eich diddordeb – edrychwn ymlaen at glywed gennych!
Volunteer Role Description
Curating early medieval human remains from
Llandough
Background
The Department of Archaeology & Numismatics, Amgueddfa Caerdydd – National Museum Cardiff
has a large collection amongst which are a number of human remains from the early medieval
cemetery site at Llandough, Vale of Glamorgan. The remains were exhumed during excavations
undertaken in 1994 by Cotswold Archaeology ahead of the construction of a new housing
development near to the site of the present day church. Research and dating has demonstrated this
group of burials to be of considerable significance to our understanding of peoples lives, diets and
health during the early medieval period.
Purpose of role
We are seeking two volunteers to assist us with the documentation and repackaging of these
skeletons. Work will entail the matching up of individual bones with their records and then rebagging
and reboxing each skeleton into a new box and preparing documentation records on paper for our
collections records.
Location: Amgueddfa Caerdydd – National Museum Cardiff
Department: Archaeology & Numismatics
Main tasks
The training will provide basic museum skills in:
- The legal framework and guidelines for the curation of human remains in museums
- Basic identification of human skeletal elements
- Some skills in determining age, sex and indicators of pathology
- Packaging and recording techniques specific to human remains
- To learn about accessioning and recording standards used by museums when documenting
collections.
Requirements
Essential
• A responsible attitude and respect for human remains.
• A general interest in human osteoarchaeology and the care of archaeological human remains
in museums.
• A willingness to see and handle adult human skeletal remains as well as those of
young children and babies, including some which show considerable degradation
and/or damage.
• A passion for archaeological recording
• Good attention to detail
• To be prepared for some repetition in the tasks undertaken
• Ability to lift and carry boxes
Desirable skills/knowledge or interests in
• Intention to undertake further study in Archaeology / Osteoarchaeology.
• Previous experience in handling/packaging of human remains.
This role would be especially suitable for those who are about to start, or are currently
engaged in formal archaeological study.
Hours & commitment
We are seeking two volunteers who will be available between half and one day a week (exact day to
be agreed) on a weekday between 9.30am and 4.30pm
This role is for a three month period.
Benefits
• Learn more about the work that goes on behind the scenes to care for an archaeological
collection, specifically human remains.
• Have an intensive hands-on experience of working with real archaeological collections
• Learn basic skills in the identification, recording and packaging of human skeletal remains.
• Gain an insight into the work of an archaeology department in a large national museum.
• 20% discount in our National Museum gift shops
• 25% discount at our Museum coffee shops
• Free on-site parking pass
• Reference supplied if required
Reporting to – Jody Deacon, Curatorial Assistant (Prehistory), Department of Archaeology &
Numismatics
Training and Support - A general Museum induction and project specific training will be provided,
as well as ongoing support and task specific training from the archaeology curatorial team and
volunteer coordinator.
Expenses -
Museum volunteers are able to claim reasonable, pre agreed, out of pocket expenses as follows:
• actual public transport costs (with receipts)
• If travelling by car, mileage of 45p per mile with free on-site parking
How to apply – Please complete the accompanying application form and return it to:
Sian Layton, Volunteer Coordinator, HR Department, National Museum Wales, Cathays Park,
Cardiff CF10 3NP.
Or via email at: volunteering@museumwales.ac.uk
If you have any queries or would like assistance in filling out your application form, do get in touch at
sian.layton@museumwales.ac.uk or Tel 02920 573190
NB Due to the high demand for volunteering opportunities, we cannot guarantee your placement,
however we do ensure that all applications are treated equally and will be submitted for
consideration. You will receive a response via email to let you know if you have been selected for
the role or not (If you do not have an email address, please provide us with a postal address). You
may also be invited in for an informal meeting to ensure that both sides are happy before starting.
Amgueddfa Cymru – National Museum Wales welcomes volunteers from all parts of the community
References are taken as standard for all volunteering roles.
Deadline for applications
19th April 2013
Many thanks for your interest and we look forward to hearing from you!

Agent guest book · versions 1.change.fix, from the commit history
VersionDateChangeWho

See all