READ ARTICLES (19)

News
Copy
GWEITHIAU ALCAN CYDWELI WEDI EU HATAL. Y mae y ffaith fod gweithiau alcan mawr- ion Cydweli wedi eu hatal er dydd Mercher diweddaf, wedi achosi cryn bryder yn y lie. Y mae gwir achos yr ataliad hefyd i raddau mewn tywyllwch, er y gwyddis fod y cwmni yn nglyn a. mater cyfreithiol trwm yn Llun- dain yr wythnos ddiweddaf. Y mae hwn yn un o'r gweithiau henaf a mwyaf yn Neheudir Cymru, ac y mae cydymdeimlad cyffredtnol a'r perchenogion, Mri. Chivers a'i Feibion, yn yr amgylchiad gofidus hwn. Y mae tref Cydweli yn ymddibynu bron yn Boliol ar y gweithiau hyn, yn y rhai y cyf- logir rhyw 700 o bersonau. Y mae ataliad v y gwaith ar y fath adeg o'r flwyddyn yn hynod anhdpus, ond credir yn lied gyffredin na fydd o barhad mawr.

News
Copy
PWYLLGOR GWEITHIOL DOWLAIS. Dymunir hysbysu aelodau y pwyllgor uchod y cynelir cyfarfod nos Sadwrn nesaf am chwech o'r gloch, pryd y dysgwylir i bob aelod fod yn bresenol, yn nghyda dau neu dri yn ychwanegol o bob glofa. Dy- 1 munir ar i'r aelodau ddwyn barn y glofeydd ar y priodoldeb o dalu at y Scale. Hefyd, bydd materion pwysig ereill i'w gosod ger- bron y cyfarfod.- Y SG.

News
Copy
CYFARFOD CYNRYCHIOLWYR GLOFAOL YN ABERDAR. Cynaliwyd cyfarfod o gynrychiolwyr glo- feydd Sir Fynwy a Deheudir Cymru yn y Bute Arms, Aberdare, ddydd Llun diweddaf. Llywydd, Mr. D. Davies, Blaenycwm; is- lywydd, Mr. T. Harding, Castellnedd. Cyf- lawnwyd swydd yr ysgrifenydd gan Mr. Lewis Miles, Ysgrifenydd y Bwrdd Cymodol. Yr oedd cynrychiolwyr y gweithwyr yn bresenol oil ond Mr. W. Abraham (yr hwn oedd glaf), a Mr. Phillip Jones. Y pwnc a ddaeth o flaen y cyfarfod gyntaf oedd pwnc y Sliding Scale, sef a oedd cynrychiolwyr y gweithwyr wedi gwneud yn iawn trwy law- nodi y cytundeb am y ddwy flynedd nesaf. Cymerwyd atebiad y gwahanol gynrychiol- wyr ar y pwnc hwn, yn nghyd a rhif y rhai a gynrychiolent, a'r canlyniad oedd,- Yn gefnogol i'r hyn a wnaeth y cynrychiolwyr 16,6bl Yn erbyn 14,109 Heb fod y naill ochr na'r llall 2,665 Mwyafrif yn erbyn yr hyn a wnaeth y cynrychiolwyr 748 Cymerodd ymddyddan le yn nghylch a oedd yr hyn a wnaeth y cynrychiolwyr yn rhwym- edig ar y gweithwyr, pryd yr oedd dau olygiad ar y mater. Dywedodd Mr. John Jenkins, Llanfabon, ei fod yn credu er y boreu mai dyna fuasai y canlyniad; ond pe buasai ef o flaen un- rhyw reithwyr neu farnwr mewn llys, y buasai yn cael amddiffyn ei hnn cyn cael ei ddedfrydu. Trwy fod Mr. Abraham a Mr. Philip Jones yn absenol, nad allai efe hysbysu y cyfarfod beth a fuasid yn ei wneud yn ngwyneb yr anghymeradwyaeth, ond y buasai hyny, ond odid, yn cael ei ystyried mewn ychydig ddyddiau. Fod yn dda ganddo, yn ngwyneb y penderfyniad, fod barn y cyhoedd yn hollol o blaid yr hyn yr oeddynt wedi ei wneud. Siaradodd Mr. Thomas Griffiths, aelod arall ar y Scale, ac a ddywedodd nad oedd efe yn meddwl eto fod yr hyn a wnaeth- pwyd ganddynt yn gam o chwith, ond eu bod yn gorfod barnu pethau fel yr oeddynt yn cael eu rhoddi o'u blaenau. Hefyd fod sefyllfa arianol y Scale yn galw am iddynt fel cynrychiolwyr i gyfarfod, yn gymaint a bod ol dyled ar bob lie bron tuag at drysorfa y Scale, Jjiolcliai Mr. J. Morgan am y gobaith y cawsai ei ryddhan o'r dyledswydd yn nglyn a'r Scale. Yn nesaf, galwodd D. Morgan sylw y cyf- arfod at reolau neillduol i'r glowyr yn nglyn a'r gyfraith newydd. Fod cyfarfod wedi ei gynal yn Nghaerdydd ddydd Sadwrn, er gwrandaw ar yr hyn oedd gan y meistri i'w ddweyd ar y pwnc, a bod y pwnc yn un gwir bwysig. Fod y meistri wedi cyfansoddi Rheolau Neillduol ar gyfer canolbarth Mor- ganwg, a'u bod am i'r gweithwyr ddewis pwyllgor i ystyried y cyfryw, a chael cyfar- fod eilwaith i ddadleu y pethan nad oeddent yn cydolygu arnynt. Siaradodd Mr. John Jenkins hefyd ar y pwnc. Yn ganlynol, penderfynwyd fod Deheudir Cymru a Sir Fynwy i'w rhanu yn dair dosran, a phob dosbarth i ddewis ei gynrychiolwyr i ym- wneud a'r rheolau hyn. Fod Canolbarth Morganwg i ethol fel y canlyn :—Aberdar a Dowlais, 5; Rhondda, 5; Ferndale, 1; Ocean, 1; New Tredegar, 1; a glowyr glo Tai, 2; cyfanrif, 15. Yn nghylch yr undeb oedd i'w sefydlu yn Neheudir Cymru a Swydd Fynwy, pender- fynwyd fod pwyllgor i'w ethol i dynu i fyny reolau afei gyfer, a bod y pwyllgor hwnw yn gyfansoddedig o'r personau caiJynol,—Mri. Bobert Thomas ac Edward Davies, New Tre- degar; Mri. Evan Ho wells, Plymouth, a John Lewis, dros Aberdar a Merthyr; Mri. David Thomas a David Davies, Rhondda; Mri. Thomas Harding a John Jenkins, dros ddosbarth y West, a Ferndale'a'r Ocean i ethol bob i un; a bod Mri. W. Abraham, Isaac Evans, a D. Morgan i bresenoli eu hun- ain yn y cyffyw bwyllgorau fel cyfarwydd- wyr. Apwyntiwyd y cyfarfod i gymeryd lie ddydd Mawrth, tair wythnos i heddyw.

News
Copy
CLYBIAU YFED CAERDYDD. Y mae amryw o'r clybiau yfed yn Nghaer- dydd yn parhau i fod yn warth i'r lie, ac yn achosion o aflonyddwch i'r cymydogaethau. Ymwelodd yr heddgeidwaid ag amryw o honynt nos Sadwrn a boreu Sul diweddaf, ond pan yr ymwelasant a chlwb Friend of Freedom,' a gedwir gan un Thomas Kavan- agh, yn 25, Pellett Street, ymosodwyd ar- nynt gan y gwestywr a choes brws, yr hwn a.alwodd ia^^i'j^^uartkwyo y ihaSylent -rhyw haner cant mewn nifer. Gorchym- ynodd Kavanagh hefyd i'r gas gael ei droi allan, ac yn y tywyllwch cafodd yr hedd- geidwad y gwaethaf, a bu orfod iddynt en- cilio. Wedi galw yn nghyd nifer ychwaneg- ol o heddgeidwaid, gwnawd ail-ymosodiad, a bu ymladdfa faith rhwng y pleidiau. O'r diwedd, gorchfygodd yr heddgeidwaid, a di- angodd y terfysgwyr a'r gwestywr. Cafodd yr heddgeidwad gyfanswm mawr o wirod anghyfreithlon yn y ty, y rhai a gymerwyd i'r orsaf. Y mae amryw o'r heddgeidwaid a fu yn yr ymladdfa wedi eu niweidio yn fawr.

News
Copy
YMGAIS AT FRAD-LOFRUDDIO M. JULES FERRY. Yr ydym yn cael o Paris fod ymgais beiddgar wedi ei wneud prydnawn dydd Sadwrn diweddaf, i lofruddio M. Jules Ferry, yn nghynteddau Llysoedd y Cynrych ioIwyr. Tra yr oedd y Ty yn eistedd, daeth dyn haner cant oed at y swyddogion yn y cyntedd, gan eu hysbysu ei fod am weled M. Jules Ferry a M. Goblet. Anfonwyd y genadwri at y boneddigion hyny, ac yn fuan, gwnaeth M. Jules Ferry ei ymddang- osiad, pryd yr anelodd y brad-lofrudd law- ddryll ato, gan ollwng tri ergyd o hono. Gwelwyd yr hen foneddwr yn siglo ar ei draed, a rhedodd rhai i'w gynorthwyo, tra yr ymaflodd ereill yn y drwgweithredwr, gan ei sicrhau. Cariwyd yr archolledig i'r clafdy, lie y cafwyd nad oedd ei archollion yn rhyw beryglus iawn, ac y bydd yn fuan eto yn ei Ie. Dywedodd y carcharor ei fod yn perthyn i gwmni o ugain oedd wedi pen- derfynu gweithredu fel y gwnaeth, ond mai arno ef ac un arall y disgynodd y gorchwyl y tro hwn.

News
Copy
MARWOLAETH MR DANIEL THOMAS PENYLAN, CAERDYDD. Boreu dydd Sadwrn diweddaf, bu farw Mr. Daniel Thomas, Penylan, tad Mr. Alfred Thomas, A.S., wedi cystudd byr. Yr oedd wedi cyrhaedd ei 81 oed, ac yn foneddwr a adnabyddid ac a berchid yn gyffredinol yn nghymydogaeth Caerdydd. Bu yn gon- tractor am flynyddoedd o dan Arglwydd Bute, ac yn berchenog ar odynau calch gwerthfawr yn Llandough. Heblaw Mr. Alfred Thomas, mab iddo ef ydyw Mr. Joseph Thomas, analyst y fwrdeisdref, ac y mae ei ddwy ferch hefyd yn fyw, ond yn briod.

News
Copy
LLADRAD YN Y RHONDDA. Prydnawn dydd Sul diweddaf, collodd Mr D. W. Thomas, Postfeistr, Gyfeillion, Rhon- dda, ei cash box, yn cynwys y swn o 135p. 12s, 9c., o'i ystafell wely. Cymerwyd y box tra yr oedd Mr. Thomas yn y capel oedd yn ymyl. Yr oedd wedi cymeryd mwy o ofal o hono nag arier y Sul diweddaf, ac wedi ei roddi o dan ei obenydd yn y gwely. Yr oedd y lie yn ferw gwyllt ddydd Llun, a'r heddgeidwaid yn gwneud eu goreu er ceisio dyfod o hyd i'r lladron. Dydd Mawrth, modd bynag, deuwyd o hyd i'r box, yn cyn- wys yr holl arian, mewn twb golchi cymyd- oges. Syrthiodd drwgdybiaeth ar unwaith ar ferch ieuanc o'r enw Mary Bassett-hi a'i! 1 chariadfab. Y mae yn ymddangos fod Mr. Thomas wedi rhoddi gofal allwedd ei shop i I gymydoges, a bernir fod y ferch ieuanc, yr hon oedd yn gwybod hyny, wedi cymaryd yr allwedd, ac wedi cymeryd y box,

News
Copy
LLOFRUDDIAETH LLANELLI. Y mae yn cael ei hysbysu fod tyst arall mewn cysylltiad a llofruddiaeth Llanelli wedi ei gael, a hyny ya mherson merch ieu- anc. Dywed ei bod yn adnabod Rees yn dda. Yn flaenorol i ddydd Sadwrn y llof- ruddiaeth, ei bod wedi claddu perthynas yn I mynwent Llanelli, a'i bod wedi myned i'r fynwent y boreu hwnw i roddi y bedd yn ddecheu, pryd y gwelodd hi David Rees yn dyfod o gyfeiriad yr ysmotyn. Wedi iddo ddyfod i'r fynwent, ymadawodd gan gymer- yd ffordd Penygaer, gan edrych yn hynod o wyllt. Nid yw ond iawn i'r ddwy ochr i'r dyst hon gael ei galw, a bernir y bydd iddi gael ei galw er profi nad oedd Rees yn y He ar adeg y llofruddiaeth. Er y credir yn gyflredin fod ail berson yn yr helynt, y mae yr heddgeidwaid yn methu dyfed o hyd i un awgrym am dano. Credir yn lied gyffredin hefyd fod ereill a allent roddi hysbysiaeth yn nghylch yr helynt, ond eu bod yn cadw yn ol rhag cael eu henwau yn nglyn a'r drafodaeth.

News
Copy
+ WED! LLADD TAIR GWRAIG. I mae llythyr o Columbia yn hysbysu fod un Stephen Bailey wedi llofruddio ei wraig yno ryw ddwy wythnos yn ol, ac wedi llosgi ei chorff yn ffwrnes y felyn Hfio. Pan ei cymerwyd i fyny, torodd ei wddf a bu farw yn ngharchar Swydd Berkley. Ychydig cyn marw gwnaeth tBailey y cyfaddefiad canlynol i'r ceidwad, Yr ydwyf oddeutu 70 mlwydd oed. Yr ydwyf wedi bod yn briod dair gwaith. Lleddais y wraig gyntaf a phastwn. Ei henw oedd Catherine. Cleddais hi yn yr ardd, ond wedi peth amser daeth y weithred yn hysbys, a chladd- odd y bobl hi yn y fynwent. Yr oedd iddi chwech o blant. Enw fy ail wraig oedd Mary. Lleddais hi a phriddfaen wrth ei tharaw yn ei phen. Ni ddywedaf beth a wnaethum a'i chorff hi. Enw fy nbrydedd gwraig oedd Sallie. Yr oedd hon yn an- ffyddlon i mi am hir amser. Dywedais wrth y dyn am stopio, ond ni wrandawodd arnaf. Yr oedd hi a minau heb fod ar. delerau da am rai wythnosau. Cynllwynais am ei bywyd ar lwybr troed, a tharewais hi yn ei phen a bwyell; lleddais hi, a llusgais hi i'r llwyn hyd y noson hono. Yna gosodais hi ar wheelbar, llusgais hi am edcl^utu mjHdii:, a ffcotitlaig iBi yn y iffwrnes. Ehoddais dan yn y ffwrnes ar godiad haul, a chymerwyd fi i fyny oddeutu naw o'r gloch. Cafodd Sallie saith o blant." Bu farw Bailey fel y bu fyw.

News
Copy
BODDIAD YN AMANFORD. Nos Iau yr wythnos ddiweddaf, boddodd gwraig Mr. D. Williams, Plasycoed, Aman- ford, yn afon Llwchwr, yn agos i orsaf reil- ffordd Pantyffynon. Deuwyd o hyd i'r corft y diwrnod canlynol, yn agos i Tyceryg, wedi cael ei gario gan y llif am dros dair milldir. Y mae cydymdeimlad mawr a'r teulu yn cael ei ddatgan.

News
Copy
PRIODAS. Hydref 20fed, yn Bethlehem, capel y Meth- odistiald Calfinaldd Castellnedd, gan y Parch. M. Thomas, Resolven, yn mhresenoldeb y cof- restrydd, Mr. T. Davies, ien., Boot Manu- facturer, Resolven, a Miss J. Jenkins, merch Mr. T. Jenkins, Penhydd (gynt o Penrhys) ger Pontrhydyfen.

News
Copy
CYFARFOD DOSBARTH Y GLO UAREG. Cafwyd cyfarfod hynod lewyrchus, yn gynwysedig o ddeg o lofeydd y dosbarth, yn Brynaman, dydd Sadwrn diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. W. Rees. Pasiwyd am- ryw benderfyniadau, y rhai y barnai y cyf- arfod yn oreu beidio eu cyhoeddi trwy y wasg, hyd nes y ceir gweled beth ddaw o'r bwriadau sydd ynddynt; ond fod enwau priodol y personan hyny sydd yn gwrthod cydymffuifio â rheolau y lofa hyny lie y gweithiant, yn cael eu cyhoeddi trwy y wasg ar ol y cyfarfod nesaf, os na ddiwygiant ar fyr, yn hytrach na gweithio allan o amser er ceisio llamv mwy o ddrams na'r hyn sydd yn rheol y lofa, ac yn rhesymol yn ol barn, gwybodaeth, a phrofiad hen weithwyr sydd yn y lofa. Penodwyd glofeydd Pontyberem s Piit-tyffynon i ddewis pobo ddyn i archwil- io liyfrau y dcsbarth am y flwyddyn hon, a bod cyfrif-len i'w thynu allan eleni fel arfer. Darllenwyd llytbyr hefyd oddiwrth Gym- deithas Ryddfrydol Cwm Rhondda, yn gofyn cydymdeimlad dosbarth y glo careg eleni eto, fel arfer, er cynorthwyo ein cynrychiolydd llafur gweithgar (Mabon) yn y Senedd, yr hwn, yn ddiddadl, sydd wedi ac yn debyg o fod yn fendith i weithwyr Cymru. Gadawyd y cynllnn o wneud y casgliad yn nwylaw y glofeydd o hyn i'r cyfarfod nesaf. Gwyddom am rai eleni eto, fel arfer, tuallan i'f glowyr, yn barod i eyfranu at y mudiad. E. REES, Ysg.

News
Copy
GWEITHIAU AUR MEIRIONYDD. Y mae y pwns hwn yn tynu cryn sylw y dyddiau hyn, ac y mae yn dda genym ddeall fod rhyw sylwedd i'r chwedlau a daenir yn nghylch cyfoeth euraidd Cymru. Y mae Mr. W. P. Morgan, perchenog y tir ar yr hwn y mae yr aur wedi ei ddarganfod yn awr, yn byw mewn palasdy o'r enw Bryntirioa, yn Gymro iachus yr olwg arno, yn ddyn hy- waith a chyfeillgar, ae oddeutu 40 oed. Nid yw am godi gau obeithion na dysgwyliadau yn neb, eto y mae yn amlwg oddiwrth yr hyn a ddywed ei fod ef yn credu fod llwydd- iant mawr i ganlyn y darganfyddiad. Dy- wed hefyd ei foa ef yn credu fod Cymru yn un o'r gwJedydd cyfoethocaf o ran aur yn y byd. Dywed hefyi ei fod wedi bod yn gweithio a pharotoi ei gynlluniau er's pedair blynedd, ond mai yn Gorphenaf diweddaf y tarawodd ar aur trwm, a'i fod er hyny wedi bod a dynion yn gweithio nos a dydd, a bod y gwaith yn edrych cystal yn awr ag erioed. Barna y gellir malu y ceryg am ryw three pennyweight' y dynell, tra mai y cyfrif lleiaf a roddir am gynyrch yr aur yno ydyw dwy wns y dynell. Hysbysa hefyd ei fod ef eisioes wedi gweithio digon i gynyrchu canoedd o filoedd os nad miliynau o bunau, a bod yr aur o'r fath ansawdd fel y mae yn werth 3p. 12s. Oc. yr wns. Y mae yn ymddanges fod defnydd wedi ei wneud o'r eery g yn cynwys aur i adeiladu muriau anedd-dai a gweithdai, yn y rhai y gwelir y mwn melyn yn dysgleirio, ond nid oedd y rhai a'u defnyddient erioed wedi meddwl mai aur oedd yr hyn a ddysgleiriai. Y mae y boneddwr am brofi fod y peth yn werth ei weithio, cyn denu neb i roddi aiian allan yno. Dywedir fod yr ysmotyn y mae yr aur ynddo rhw chwe' milldir o Ddolgell- au—rhwng y lie olaf a Thrawsfynydd. Y mae penill Ceiriog yn debyg o ddyfod yn fwy o wirionedd nag erioed,—„ Pwy ddywed bytb fod Cymrn'n dlawd Am fod el Ilaoau'n llonydd; A thithau'th hun yn cloddio, frawd, Yn mryniau aur Meirionydd.' ■!

Advertising
Copy
W. Williams, ie, CASTLE STREET, 3 "W .A. 3sT S E .A.. I SPECIALITIES j^NGLISH PATENT. LEVERS. <2CT. GOLD -rEDDIN^ RINGS. 1S0T. GOLD KEEPERS. CRYSTAL gPECTACLES.

Advertising
Copy
Gymry hoff dewch at y Cymro, Os am heirdd fodrwyau aur Orladoron ao awrleisian, Gremau, a chadwynao claer; Yapectol gelfydd, hln-fynegydd,, Gwres-fesnrydd, Owmpavrd mi Geir gan WIIX;AMS, Beoly Castelf" Trowch i mown i wel'd ei stOf., W. WILLIAMS. WATCHMAKER & JEWELLER, 29,Castle Street, Swansea. ,¡;

News
Copy
V H V 1' H IS Yn adeg Jubili y Frenhines, cyfarfyddodd mwnwr Cymreig o'r enw William Griffiths, Pant-teg, Tremadog, Gogledd Cymru, a dam- wain ddychrynllyd, trwy i'r magnel a daniai bollti yn ddarnau. Tarawyd ef ag un darn yn ei wyneb a'i ben, ac o'r braidd y diangodd a'i fywyd. Trwy fod gan y truan wraig ac wyth o blant i'w cynal, apeliwyd, yn mhlith ereill, at y Erenhines, am gynorthwy iddo, ac y mae yntau wedi derbyn archeb am 10p., yn nghyda dymuniad cynes am iddo gael gwella eto i'w gynefinol iechyd, er wedi colli un o'i lygaid, a hollti asgwrn ei drwyn. PRYDNAWN dydd Gwener diweddaf, bu farw labrwr o'r enw Jeremiah O'Conelly, mewn canlyniad i niweidiau a dderbyniodd efe trwy syrthio oddiar astyllen pan yn cario pig iron o diuck ar siding reilffordd yn ymyl gwaith aican iLlwydiarth, Maesteg, Syrth- iodd cyfanswm o'r haiarn arno, ac ni fu byw ond ihyw awr wedi ei niweidio. Gadawodd wraig a phedwar o blant ar ei ol. Nos Iau yr wythnos ddiweddaf, cymerwyd i fyny George Ogden, prif swyddog tlodion Undeb Bangor, dan y cyhuddiad o anonest- rwydd yn ei gyfrifon. Dywedir fod y car- charor wedi gosod ar ei lyfrau enwau per- sonau tlodion oeddynt wedi meirw er's blyn- yddoedd, a'i fod wedi ysbeilio oddiar yr Undeb yn agos i 3,000p CYNALIWYD nifer o gyfarfodydd poblog- aidd yn nglyn a phwnc Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys, yr wythnos ddi- weddaf, yn ngwahanol leoedd yn Neheudir Cymru, megys Merthyr Tydfil, Llanelli, Aberdar, &c.. Yr oeddynt yn gyfarfodydd brwdfrydig ac unfrydol. Y mae yn hawdd deall fod Cymru bellach yn addfed ar y pwnc, ac yn y cyfarfodydd hyn cafwyd offeiriaM, yn nghydag Eglwyswyr selog, yn dadleu hawliau Dadgysylltiad a Dadwaddol- iad. Y mae yr ysgrif a dderbyniasom ar y cyfarfodydd "hyn oddiwrth ohebydd neill- duol yn rhy faith yr wythnos hon, caiff ym- ddangos yn ein, nesaf. YN nhlotdy Tredegar yi wythnos ddi- weddaf, bu farw yn dradisymwthun George Browne. Yr oedd wedi gwneud cais am fyned, i'r tlotdy o herwydd ei fod yn dyoddef oddiwrth y rheumatism, a bu farw pan yn eh;tedd ar fainc yn y yard. IRoedd y trancedig wedi bod yn perthyn i'r llynges, ac yn awr yn derbyn pensiwn o 2s. 1c. y dydd. Yr oedd yn derbyn hyny am ei fod un tro wedi cydio mewn tha-belen ar fwrdd y llestr, ac wedi ei thaflu dros y bwrdd cyn iddi ffrwydro. > YN ddiddadl, bydd yn dda gan ganoedd o bprs3n.au yn y Ehdnddaglywedfod y gwaith o glirio ymaith y cwympiadau a repario yn caelei gario yn mlaenyn hwylus yn nglofeydd Penygraig, y rhai sydd wedi bod yn segur am gryn amser. Credir yn awr yn gyffred- inol trwy y dosbarth y bydd y lofa yn mhen ychydig amser yn barod i dderbyn iluaws o weithwyr. MEWN cyfarfod brwdfrydig o gynrychiol- wyr Rhyddfrydol yn Dinbych, mabwysiad- wyd Mr G. W. Taylor fel ymgeisydd am Orllewinbarth sir Ddinbych, mewn gwrth- wynebiad i'r Milwriad Cornwallis West, yr aelod presenol, yr hwn sydd yn Rbyddfryd- wr Undebol.

News
Copy
GWEITHFAOL A MASNACHOL. Y FASNACH ALCAN. Ni fu y fasnach alcan mor fywiog yr wythncs ddiweddaf a'r wythnos cyn hyny, a hyny, mae'n debyg, "Q herwydd ychydig o anghysondeb yn marchnad y mwn alcan. Cymerodd gostyngiad o lOp. le yn hwnw dydd Llun, ond cododd yn fuan i'w hen bris, ac felly yr arosodd am yr wythnos, sef rhwng 166p. a 167p. y dynell.. Pan y cy- merodd y gostyngiad Ie, ymbwyllodd y pryn- wyr llafnau, a daeth y gwerthwyr yn lluos- ocach, a thueddai y liafnau i ostwng; ond yn awr, wedi i farchnad y mwn alcan sefydlu, y mae y fasnach eto yn cryfhau, a'r prisoedd yn edrych i fyny. 0 Abertawe, cawn mai cyfanswm yr all- forion alcan am yr wythnos oedd 79,033 o flychau, ac wedi eu derbyn o'r gweithfeydd, 52,612, ac felly y stoc wedi Ueihau ycbydig. Bydd yn dda gan nifer mawr o bersonau sydd yn teimlo dyddordeb mewn llafnau alcan, gael ar ddeall fod awgrym yn cael ei wneud yn anerchiad Arlywydd yr Unol Dalaethau i'r Cyngrair, fod pob lie i gredu y dileir pob ardreth oddiar lafnau alcan a ddadforir yno. Y mae yr anerchiad yn cy- meradwyo ar fod i bob defDydd anorphen- edig gael ei ganiatau yn rhydd, yn enwedig mwn haiarn, llafnau alcan, coed, g!o, &c.

News
Copy
101,847 WEDI MARW O'R CHOLERA Yn Ewrop, dywedir mai o'r dwyrain y mae y Cholera yn dyfod, ac yn Japan dy- wedir mai o'r gorllewin. Y mae hyn yn cael ei wneud gyda rheswm da, canys yr oedd y Cholera yn anadnabyddus yn Japan hyd 1882, pryd ei cariwyd yno gan lestr Dutch- aidd. Y mae yn ami wedi gwneud galanas yn yr amerodraeth er hyny. Er ei ail ym- ddangosiad yn Rhagfyr diweddaf, o'r 154,625 a gymerwvd yn glaf gan yr haint, bu farw 101,847. Y cyfryw yw yr adrodd- iad sydd newydd gael ei gyhoeddi.

Advertising
Copy
Y Rhondda Glee Society. 81 Arweinydd CARADOG Is-arweinydd MR. T. STEPHENS. Solo PiaDist a Cbyfeilydd MR. RICHARD HOWELLS, Maesgwyn. Dymuna y Gymdeithas uchod hysbysu pwyll- gorau Cyngherddau ac Eisteddfod&u ei bod yn bwriadu taln ymweliad ag AMERICA Yr baf dyfodol, a'i bod yn barod i gymeryd Engagements mewn cyngherddau, &c. Am bob manylion pallach, yn nghyd a thel- erau, vmofyner a'r gornchwyliwr cyffredinol, Mr. T. STEPHENS (Telorydd), Pentre, Rhondda. HYSBYSIAD. BWRIADA J. DAVIES, Doctor Dwfr a Farrier, Conwyl, ymweled a'r manau canlynol ar y dyddian a Mcdir :— Rhag. I5fed, yn Siop Mr B. Morris, Grocer, Penygyaig 16eg, yn Siop Mr Tudor "Williams, Medi- 16eg, yn Siop Mr Tudor Williams, Medi- cal Hall, Whitoombe St., Aberdar I „ 17eg, yn Siop Mr R. P. Rees, Chemist, I High Street, Dowiais 19eg, yn y Scar Coffee Tavern, Pectre I Yatrad 20fed, yn y Cambrian Inn, Maesteg I 21ain, yn y Duke of Wellington Ion, Old Market Street, Neath 22ain, yn y Bird-in-Hand Inn, Market Street, Llanelli „ 24aia, yn yr Old King George, Priory Street, Carmarthen p D.S.—Y mae hefyd yn wythnosol yn y tri man diweddaf a nodir uchod. Shwd y'ch ch'i ]Fleddy' I "RW'I WEDI GWELLA TRWY DDEFN- YDDIO QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Mae pob dyn synwyrol yn cymeryd addysg oddiwrth brofiad ereill. Profiad hynod. Dyeddefiadan truenus. Bywyd ynfaich i mi, ac yn bryder i ereill." Qainine Bitters yn ei wneud yn gryfach mewn corff a meddwl nag a fu am flynyddau yn flaenorol. Hope Hall, Bethesda, Arfon, Medi 7fed, 1886. Syr,-Er nas gwelais chwi erioed, yr wyf yn teimlo fy mod dan rwymau personol i chwi fel darganfyddwr yr hyn sydd wedi profi yn fendith i ddynoliaeth, y byd.enwog Quinine Bitters. I'r feddyoiniaeth hon yr wyf yn ddyledus am ryddhad rbag poen, ac am adferiad iechyd a nerth corfforol, pan oedd pob meddyginiaeth a meddygon ereill wedi methu rhoddi unrhyw les pa- rhaol. Nid oes ond ychydig ddynion sydd wedi dyoddet mwy nag wyf fi wedi ddyoddef, ac yn sicr nis gall fod ond ychydig ellid eu hystyried yn fwy anobeithiol rag oedd- wn i cyn i mi wnend prawf ar eicb medd- yginiaeth anmhrisiadwy. Gorfodid fi i fod yn ofalus iawn pa twyd fwytawn gan fod yn mron bob peth gymerwn yn achosi poen mawr i mi. Chwyddid fy nghylla gan wynt, a gwapg- ai hyn drachefn ar y rhanau bywydol ereill n'r corff, megys yr Ysgyfaint, yr Afu, a'r Galen, ar weithrediad rheolaidd y rhai yr ymddibyna iechyd, cysur, a nerth y corff. Gymaint oedd y gwynt chwyddol yma ar bryciau, ac efifeithiai gymaint ar fy nghalon, fel yr ofnwn yn ami yr ataliai fy nghalon ei churiadau am byth. Teimlwn yn wan, di-ysbryd, a di-yni. Ofnwn siarad gair yn gyhoeddus, gan y teimlwn y gallwn syrthio yn farw unrhyw fynyd. Yr oedd fy anadl yn afrwydd, cyflym, a gwan, tra y curai fy ngbalon weithiau mor uchelfel y gallai y rhai pisteddei yn yr ystafell gyda mi ei chlywed yn rhwydd. Gellwch felly ddirnad fod fy nghyflwr yn wir dru- enus, a bod bywyd yn faich i mi, ac yn anghysur a phryder i ereill. Yn y eyflwr truenus ymllo cymhellwyd fi i wneud prawf ar eich Quinine Bitters. Oddiar fy mhrofiad blaen^rol o feddygin- iaethau ereill peddwn wpdi gwneud prawf irtfjrtft yn^ otet, nid oedd" genyf nemawr ffydd yn eich meddyginiaeth, eto cymer- ais botel 2s, 9c. Cyn i mi orphen cymer- yd hwn, teimlais y fath gyfnewidiad am- lwg er gwell, fel y penderfynais gymeryd potelaid fawr 4s. 6c. Yr oedd y lies gawswn mor amlwg fel y cymerais yn rhwydd botelaid 4s. 6c. arall, gyda'r can- lyniadau mwvaf hapus. Yr wyf yn awr yn gryf ac yn iach-yn hollol iach, ac wedi bod telly o'r amser hwnw hyd yn awr,-yn gryfach mewn corff a meddwl nag oeddwn wedi bod am flynyddau yn flaenorol, a hyn oil amdraul oddim ond un-swllt-ar- ddeg a naw ceiniog (lis. 9c). Oddiar hyny yr wyf wedi ei gymeradwyo i ddwseni o rai ereill, ac ni welais neb erioed yn gwneud prawf teg arno heb dderbyn Iles oddiwrtho a chael eu llwyr foddloni ynddo. Yr ydych at eich rhyddid i wneud pa ddefnydd bynag fynoch o'r llythyr hwn. Yr eiddoch yn ddiolehgar ,-E. W. JONES (GWERYDD WYLLT.) MEDDYGINIAETH OREU CYMBU. Quinine Bitters Gwilym Evans, Enwog ydynt drwy ein gwlad, Dwyn tystiolaeth 'nawr wna miloedd I'w rhinweddau er iachad uan cilia anhwylderau Dan eu heffaith mewn modd syn. Cleifion gollant eu clefydau Wrth ddefnyddio'r Bitters hyn Symud wnant achosion gofid, Gwneud y bywyd trist yn lion, Puro'r gwaed, bywiogi'r ysbryd. Gyru pob rhyw loes o'r fron; Poenau mewnol ac allanol, Poenau mawrion, poenau bach, Gwendid corff a gwendid meddwl, Giliant ffwrdd, daw'r dyn yn iach. Meddyginiaeth natur ydyw, Meddyginlaeth berffaith yw, • Meddyginiaeth sydd yn gwella Pob anhwylder dynolryw. Ceir, tra dyfroedd Cymru'n llifo Drwy ddyffrynoedd tlws ein gwlad, Cleifion wadi gwella'n canmol Evana' Quinine Bitters mad. Peidlwch dyoddef poenantra y gellir elch gwella trwy ddefnyddio Quinine Bitters Gwilym I Evans. I Gwelir felly fod y Quinine Bitters hyn/1 ¡ Feddyginiaeth anmhrisiadwy, ac a barnu oddi- wrth brofiad doctoriaid, teithwyr, fferyllwyr, gweinidogion,a chanoedd lawer o gleifion wedi gwella, maeyn Feddyginiaeth anffaeledlg. Pris. poteli,2s. 9c.; eto awbl faint, 4s.6c.; blwch yn cynwys tair potel ddwbl, 12s. 6c I'w gael yn mhob man. Goruchwylwyr yn mhob parth o'r byd. Os ceir unrhyw anhawsder i'w gael, danfonir ef am y pris- oedd uchod yn rhad a dyogel drwy y post i unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol, yn uniongyrchol oddiwrth y perchenog,- Gwilym Evans, PHARMACEUTICAL CHEMIST, LLANELLY, SOUTH WALES. Gellir cael Qainine Bitters Gwilym Evans yD America oddiwrth y prif oratshwyliwr, R,. D. Williams, Medical Hall, Plymouth, Penn. | Beth Y dyw P Y FEDDYGINIAETH OREU AT Y DROPSY! Sydd wedi ei ddarganfod ydyw, sef HUGHES'S DROPSY PILLS. Am y rhai y tystiolaetha miloedd o bob parth o'r byd nad oes eu cyffelyb fel meddyginiaeth effeithiol at y olefyd blin ag y maent yn dwyn ei enw, sef Y DROPSY. Wele rai o'r nodau wrth y rhai y gellwch adna- bod y clefvd os bvdd wedi gafaelyd ynoch Diffyg Dwfr, Gravel; Chwydd yn y Traed, Cliniau, Ymysgaroedd, &c.; Gwynt a Llawn- der yn y Bol, Poen yn y Cefn a'r Arenau, Curiad y Galon, Cramp a Chwsg y Cliniau; Asthma, neu Ddiffyg Anadl, Teimlad o Stiffdra yn y Corff, &c. Rhwystra y Dropsy a Chwyddiant weithred. iad rheolaidd prif beirianau y corff, megys yr Ysgyfaint, yr Afu, y Galon: y Spleen, a'r Ystumog, nes achosi y clefydau uchod, a llawer i farwolaeth sydyn. Prif feddyginiaeth yr oes at y Dropsy a'r clefydau a enwyd yw HUGlIES'S II "R n "P R "V .s; PILLS, Y rhai ydynt mor adnabyddus am eu hefifeith- iolrwydd gwyrthiol fel y mae y galwad am danytt yn oynyddu yn arutbrol bob blwydd- yn. Y mae en heffeithiau y fath fel y gellir cyfrif y rhai a dderbyciasant iachad drwydd- ynt wrth y miloedd. LIu mawr oeddynt yn ymyl y bedd sydd wedi eu hiacbau a'u hadferyd trwy effaith gwyrthiol HUGHES'S PILLS. DARLLENER A GANLYN:- Llais o Ororau y Llyn Halen. Syr,—Gwelwch yn dda ddanfon i mi werth Doler o'ch HUGHES'S DROPSY PILLS byd enwog gydathroady Post. Yr wyf yn ymwy. bodol o'u daioni er's llawer o flynyddoedd-er pan oeddwn yn byw yn Merthyr Tydfil. Yr eiddooh, EDWARD EDWARDS. Spanish Foirk City, Utah Territory, Ameroa, U.S. Wedi bod dan driniaeth Medd-; ygol am .I aw Mis. Syr,—Yr wyf yn ddiolchgar i chwi am eich darganfyddiad gwerthfawr, sef HUGHES'S DROPSY PILLS, y rhai a wnaethant ddaioni mawr i mi wrth i mi gymeryd dim ond dau flychaid. Yr wyf yn awr yn berffaith iach ac yn dilyn fy ngwaitb, wedi bod am naw mis o dan driniaeth meddygol, ond heb gael dim lleshad hyd nes i mi dreio HUGHES'S DROPSY PILLS. Gwnewoh hyn yn hysbys bawb. Yr eiddoch, JOHN PHILLIPS Colliers' Row, Treoroi. O Ymyl y Bedd yn ol i Fywyd. Syr,—Yr wyf mewn sefyllfa i ddwyn tyBtiol- aeth i rinweddau mawr eich HUGHES'S DROPSY PILLS. Y mae yr hon oedd yn ymyl y bedd ac yn dyoddef oddiwrth y Dropsy, Prinder Dwfr, Chwyddiadau mawrion, a'r Galon bron ar sefyll, yn awr wedi ei gwell- hau trwyddynt, ac yn teimlo yn wir ddiolch- gar. Towyn, Prestatyn. G. DAVIES, Gwellhad Hynod. Syi,—Yr wyf yn bur awyddus i oh hysbysu o'r eflhlth hyntd a gafodd elob Pills, sef HUGHES'S DROPSY PILLS" arnaf. Yr wyf wedi bod yn glafiawn am U o flynydd- au gan y Dropsy, Chwydd Mawr, Curiad y Galon, Asthma, Diffyg Dwfr, Poen ys y Cefn, Arenau, &c. Yr wyf wedt bed dan driniaeth holl ddoctorlald yr ardiiJ hon. a phob moddion ag yr oedd son am danyzit, well gwarlo holl arian fy hun a m tenia, eto i Aciim pwrpas o'r diwedd mt a roddais brawf sp eich Pills rhag. orol chwi, a hynod yw dywedyd, tri blychaid o honynt a'm gwelihaodd yn holllach er ayn- dod i'w boll wlad. Canoedd a allant dyattol- iaethu i'r fialth hon. Bvbh yo ddiolchgar, x ai HANNAH JONES. Wostgfltoj AbsiByroQ, RHYBUDD. Er mwyn sicrhau pawb rhag twyll, gofaler gael y Trade M-^rk (eef IJun Diamond) alr geir. iau "DROPSY PILLS" oddifewn ar bob blwch! ao enw JACOB HUGHES sr Stamp y Llywoiraeth. Heb hyn twyil ydyw. Ar werth trwy yr holl deyrnas am Is Ile, 2E1 ge. a 4s 6c; trwy y Post, Is 3o, 2s llo, a 4s 9c. oddiwrth y perchenog.— Jacob Hughes, Manufacturing Chemist, i PENARTH, CARDIFF. Goruchwyliwr yn America,- Mr. R. D. WILLIAMS, Chemist, Plymouth, Pa.
Agent guest book · versions 1.change.fix, from the commit history
VersionDateChangeWho

See all